Gweithdy Llanberis Workshop |
Sul, Ebrill 22 |
Amgueddfa Lechi Cymru, Parc Wledig Padarn, Llanberis LL55 4TY |
22.4.2012 13.00-16.30 |
Welsh Slate Museum, Padarn Country Park, Llanberis LL55 4TY |
Tiwtoriaid |
Tutors |
Dosbarth chwaraewyr profiadol
Mae Huw yn frodor o Langefni, Ynys Môn ac mae cerddoriaeth a dawns werin Cymru yn agos iawn
at ei galon. Mae ganddo hefyd
ddiddordeb mawr yn hanes a datblygiad y wisg Gymreig, a byd y ddawns werin sy’n
bennaf gyfrifol am hynny. Tros y blynyddoedd mae’r ffidil, y delyn deires, y pibgorn
a’r ddawns wedi ei alluogi i deithio Cymru ben baladr, Prydain, Yr
Iwerddon, Ewrop a'r Amerig.
Yn ei ddosbarth, bydd yn dangos sut i roi bywyd a theimlad wrth chwarae alaw draddodiadol. |
![]() | Class for experienced players Huw is a native of Llangefni on Anglesea who loves Welsh folk music and dance. He also has a strong interest in the history and the development of the Welsh costume and the world of Welsh traditional dancing which is largely responsible for its survival. Over the years, the fiddle, triple harp and pibgorn have taken him around Wales, Britain, Ireland, Europe and America. He will show his class how to put life and feeling into playing a traditional tune. |
Dosbarth chwaraewyr canolig
Cafodd Sioned wersi piano a thelyn pan oedd yn ifanc a dysgodd lawer o ganeuon Cymreig o'i thad. Astudiodd cerdd dan William Mathias ym Mangor ac wedyn yn yr Academi Frenhinol yn Llundain. Enillodd cystadleuaeth John Weston Thomas ar ei thelyn deires yn Eisteddfod Genedlaethol yr Wyddgrug yn 2007. Mae hi wedi perfformio'n eang ar draws Prydain ac yn Ffrainc fel unawdydd ac yn cyfeilio ei gŵr, Arfon Gwilym. Daw Sioned â'i holl brofiad i'w dosbarth lle bydd yn dysgu alawon a chyfeiliant. |
![]() Sioned Webb | Class for progressing players Sioned learned piano and the harp from an early age and learned many Welsh songs from her father. She studied music at Bangor under William Mathias and at the Royal Acadamy in London. She won the John Weston Thomas prize on the triple harp at the national Eisteddfod in 2007. She is a very experienced player and accompanist who has played her traditional harp across Britain and in France, both as a soloist and as an accompanist to Arfon Gwilym, her husband. She is the ideal presenter for this class in melody and accompaniment |
Dosbarth dechreuwyr
Mae Stephen Rees yn gerddor ac arweinydd gweithdai profiadol, sydd yn ceisio rhannu’r llawenydd y mae e’n ei gael wrth chwarae alawon traddodiadol Cymreig. Mae'n brofiadol wrth chwarae myrdd o offerynnau, yn ddarlithydd cerdd ac mae wedi cyflwyno'n cerddoriaeth draddodiadol dros y byd gydag Ar Log, Y Glerorfa a Crasdant. Bydd yn defnyddio'r modd traddodiadol a ddefnyddiwyd drwy'r genhedloedd i ddysgu cerddoriaeth trwy'r glust: trwy wrando a chwarae. |
![]() Stephen Rees | Class for beginners Stephen Rees is an experienced musican and workshop leader, who does his best to share the joy he gets from playing Welsh traditional tunes. He is a multi-instrumentalist, a music lecturer and has played our music across the world with Ar Log, Y Glerorfa and Crasdant. In his class he aims to use the traditional way of passing our music through the generations, by learning music by ear: through listening and playing. |
Trefnydd y gweithdy catrin@sesiwn.com 01826 831344 |
![]() Catrin Meirion |
Workshop organiser catrin@sesiwn.com 01826 831344 |
Pris cyffredinol |
£7.50
|
Standard price |
Plentyn / myfyriwr
|
£5.00 |
Child / student
|
Pris teulu |
£12.00 |
Family price |
Cliciwch yma i neilltuo lle mewn dosbarth
|
Click here to reserve your place in a class
|
Alaw y gweithdy Cliciwch yma am set sy'n cynnwys yr alaw hon. |
![]() |
Workshop tune (Knights of Snowdon) Click here for a set including this tune. |
Gwybodaeth am y gweithdy |
Information on the workshop |
|
Parcio
Mae ffî o £4 i barcio, felly mae'n werth rhannu car os medrwch. Cofrestru - Ystafell addysg Elidir Fawr 1300-1315 Croeso / Cyflwyniad 1315-1325 Gwers gyda thoriad 1330-1600 Sesiwn Gloi / Cyd-chwarae 1600-1630 LluniaethBydd caffi'r amgueddfa ar agor trwy'r dydd. Cyffredinol
Os
medrwch roi gwybod os ydych yn bwriadu mynychu ddydd Sul
- mae'n help i ni gael syniad o'r niferoedd o flaen llaw. Mae dosbarth Stephen bron iawn yn llawn. Plis pasiwch y neges yn ei flaen at unrhyw ddarpar fynychwyr. |
Parking
There is a £4 charge for parking so it's worth sharing a car. 1300-1315 Registration - Elidir Fach education room 1315-1325 Welcome / Introduction 1330-1600 Lesson with break 1600-1630 Closing session / Playing together The museum cafe will be open all day. General
Please let me know if you intend attending this Sunday - it helps us to have an idea of numbers. Stephen's class is almost full. Please pass the information on to any possible interested parties.
|
Gweithdai nesaf y Gogledd |
Next North Wales workshops |
|
Gweithdy Dinbych Canolfan Eirianfa, maes y Ffatri, DINBYCH LL16 3TS |
Sad / Sat 12.5.2012 13.30-17.00 |
Denbigh Workshop Eirianfa Centre, Factory Place Denbigh LL16 3TS |
Gweithdy Llanberis Amgueddfa Lechi Cymru, Parc Wledig Padarn, Llanberis LL55 4TY |
Sad / Sat 19.5.2012 13.00-16.30 |
Llanberis Workshop Welsh Slate Museum, Padarn Country Park, Llanberis LL55 4TY |
Gweithdy Dinbych Canolfan Eirianfa, maes y Ffatri, DINBYCH LL16 3TS |
Sad / Sat 14.7.2012 13.30-17.00 |
Denbigh Workshop Eirianfa Centre, Factory Place Denbigh LL16 3TS |
Cliciwch yma am dudalen digwyddiadau Clera Cliciwch yma i ymaelodi â Clera Cliciwch yma am ffurflen gofrestru gweithdy Cliciwch yma i wybod am Clera heddiw |
![]() |